Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
11 Hydref 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13009
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.30
3 Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cyhoeddi'r Papur Gwyn ar Weinyddu a Diwygio Etholiadol
Dechreuodd yr eitem am 14.55
4 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg
Dechreuodd yr eitem am 15.30
5 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Ymdrin â Feirysau Anadlol
Dechreuodd yr eitem am 15.58
6 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' a'r Camau Nesaf
Dechreuodd yr eitem am 16.17
Cafodd eitemau 7 ac 8 eu grwpio i'w trafod ond gyda phleidleisiau ar wahân (60 munud):
7 Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 16.53
NDM8088 – Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru).
Gosodwyd Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 20 Medi 2022.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8 Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 16.53
NDM8087 – Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd:
At ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
9 Cyfnod pleidleisio
Ni chafwyd Cyfnod Pleidleisio.
Daeth y cyfarfod i ben am 17.46
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 12 Hydref 2022